Skip to the content

Croeso cynnes i Ysgol Bro Gwaun

Mae Ysgol Bro Gwaun yn ysgol uwchradd 11-16 cyfrwng Saesneg, gyda defnydd helaeth o'r Gymraeg. Mae’n ysgol sy'n cynnig rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae'r ysgol ar safle hardd sy’n edrych dros Harbwr Abergwaun, yn erbyn cefndir o fynyddoedd y Preselau. Ar hyn o bryd, mae 534 o ddisgyblion ar y gofrestr.


Mae’r disgyblion o sbectrwm eang cymdeithasol a diwylliannol, sy'n rhoi awyrgylch bywiog i’r ysgol. Mae’r ardal yn gymysgedd o ieithoedd cymhleth - y Fro Gymreig ym mynyddoedd y Preseli, Trefdraeth, Y Strwmbl ac yn enwedig Cwm Gwaun, ac mae’r ardal wedi cadw llawer o’i hiaith a’i diwylliant Cymreig. O ganlyniad, defnyddir Cymraeg a Saesneg yn helaeth ledled yr ysgol. Ers canrifoedd mae Bae Abergwaun wedi bod yn bwynt mynediad i Brydain o Iwerddon; mae llawer o deuluoedd Gwyddelig wedi ymgartrefi yn yr ardal leol, sy’n rhoi cymysgedd unigryw o ddiwylliannau yn yr ardal.


Mae ein hysgol £14 miliwn newydd yn cynnig cyfuniad perffaith rhwng dysgu traddodiadol ac arloesol, sydd wir yn creu amgylchedd dysgu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae ein cyfleusterau yn eithriadol, gan gynnwys cyfleusterau hamdden a rennir gydag ein cymydog, Canolfan Hamdden Abergwaun.

A warm welcome to Ysgol Bro Gwaun

Ysgol Bro Gwaun is an 11-16, English medium secondary school, with significant use of Welsh. We offer subjects through the medium of English and Welsh, and are set on a beautiful site overlooking Fishguard Harbour, against the backdrop of the Preseli Hills. At present, there are 534 pupils on roll.


Pupils are from a broad social and cultural spectrum, which gives the school a vibrant atmosphere. The area has a complex linguistic mix - the Welsh heartland in the Preseli Hills, Newport, Strumble and especially the Gwaun Valley, has retained much of its Welsh culture and language. As a consequence, both English and Welsh are used extensively throughout the school. Fishguard Bay has for centuries been an entry point to Britain for the Southern Irish and many Irish families have settled in the locality, giving the area an unique mixture of cultures.


Our purpose build £14 million school offers the perfect mix between traditional and innovative learning spaces, creating a true 21st Century learning environment. Our facilities are exceptional, including our shared leisure facilities with our neighbour, Fishguard Leisure Centre.

Please find below our new school prospectus for this academic year:

Ysgol Bro Gwaun Prospectus

Always our best: for our school, for others, for ourselves.

Need to Talk?

Get in touch with us...